
(Argraffiad newydd o waith Ann Griffiths yn cynnwys ei hemynau, ei llythyrau, a gweithiau gan ei chydnabod)
Bererin llesg gan rym y 'stormydd,
Cwyd dy olwg, gwêl 'n awr,
Yr Oen yn gweini'r swydd gyfryngol,
Mewn gwisgoedd lleision hyd y llawr;
Gwregys euraidd o ffyddlondeb,
Wrth ei odrau clychau'n llawn
O swn maddeuant i bechadur
Ar gyfri'r anfeidrol iawn.
Er iddi farw yn 29 oed gan adael dim ond rhyw saith deg o benillion o farddoniaeth, mae Ann Griffiths (1776-1805) fardd crefyddol o bwys Ewropeaidd. Yn llais unigryw mewn emynyddiaeth Gymraeg, mae ei phenillion wedi'u nodweddu gan eu grym emosiynol ac am ddwyster eu cyfeiriadaeth ysgrythurol, sy'n tystio i feddwl chwim eu hawdures.
Mae'r gyfrol hon yn ail-greu Gwaith Ann Griffiths (1905) O. M. Edwards, sef y fersiwn safonol cyntaf o emynau'r bardd. Mae'n cynnwys llythyrau Ann yn ogystal ag emynau Thomas Griffiths, gwr Ann, a phenillion gan un o'u cydnabod, John Davies. Gyda rhagymadrodd newydd gan Robert Rhys.
Es wurden noch keine Bewertungen abgegeben. Schreiben Sie die erste Bewertung zu "Yr Emynau a'r Llythyrau" und helfen Sie damit anderen bei der Kaufentscheidung.