(Argraffiad newydd o waith Ann Griffiths yn cynnwys ei hemynau, ei llythyrau, a gweithiau gan ei chydnabod)Bererin llesg gan rym y 'stormydd, Cwyd dy olwg, gwêl 'n awr, Yr Oen yn gweini'r swydd gyfryngol, Mewn gwisgoedd lleision hyd y llawr; Gwregys euraidd o ffyddlondeb, Wrth ei odrau clychau'n llawnO s n maddeuant i bechadurAr gyfri'r anfeidrol iawn. Er iddi farw yn 29 oed gan adael dim ond rhyw saith deg o benillion o farddoniaeth, mae Ann Griffiths (1776-1805) fardd crefyddol o bwys Ewropeaidd. Yn llais unigryw mewn emynyddiaeth Gymraeg, mae ei phenillion wedi'u nodweddu gan eu grym emosiynol ac am ddwyster eu cyfeiriadaeth ysgrythurol, sy'n tystio i feddwl chwim eu hawdures. Mae'r gyfrol hon yn ail-greu Gwaith Ann Griffiths (1905) O. M. Edwards, sef y fersiwn safonol cyntaf o emynau'r bardd. Mae'n cynnwys llythyrau Ann yn ogystal ag emynau Thomas Griffiths, g r Ann, a phenillion gan un o'u cydnabod, John Davies. Gyda rhagymadrodd newydd gan Robert Rhys. .